Anelir yr animeiddiad 'Mae gan bawb iechyd meddwl' a’r pecyn cymorth cysylltiedig at ddisgyblion uwchradd Cyfnod Allweddol 3 (Blynyddoedd 7-9). Fe'u datblygwyd mewn cydweithrediad â phobl ifanc, athrawon ac arbenigwyr iechyd meddwl, ac fe’u haddaswyd i’r Gymraeg gan meddwl.org. Nod yr animeiddiad yw sicrhau fod gan pobl ifanc o'r oedran yma:
- Iaith gyson a hygyrch er mwyn trafod iechyd meddwl
- Ddealltwriaeth well o hunanofal iechyd meddwl
- Wybodaeth am bwy i ofyn am gefnogaeth pan fo’i angen
Animeiddiad - Mae gan bawb iechyd meddwl Fideo tu ôl i'r llenni (Saesneg yn unig)
Mae'r Pecyn Cymorth ar gyfer staff ysgol sydd i'w ddefnyddio ochr yn ochr â'r animeiddiad uchod yn cynnwys:
- Cynllun Gwers a Chyflwyniad Powerpoint
- Cynllun Gwasanaeth a Chyflwyniad Powerpoint
- Adnoddau ac ymarferion dosbarth amrywiol
Lawrlwythwch y Pecyn Cymorth llawn
Lawrlwythwch 'Cefnogi Iechyd Meddwl a Lles mewn Ysgolion Uwchradd' ar gyfer staff ysgolion.
Lawrlwythwch 'Siarad am Iechyd Meddwl gyda Phobl Ifanc yn yr Ysgol Uwchradd’ i rieni/gofalwyr.
Ydych chi wedi defnyddio'r animeiddiad a/neu’r adnoddau? Hoffem glywed eich barn. E-bostiwch post@meddwl.org (meddwl.org) a rhowch wybod i ni beth rydych chi'n ei feddwl! Byddwn yn anfon unrhyw sylwadau ymlaen at Ganolfan Anna Freud.