Croeso!
Yng Nghanolfan Anna Freud, rydym wedi bod yn cefnogi iechyd meddwl plant a phobl ifanc ers mwy na 70 mlynedd. Ein gweledigaeth yw byd lle gall pob plentyn a pherson ifanc gyflawni ei botensial llawn.

Ein nod
Rydym yn credu y gallwn, drwy gydweithio â chymunedau a gweithwyr proffesiynol, ddatblygu ein cymorth i filiynau o fabanod, plant, pobl ifanc a’u teuluoedd. Rydym yn gwneud hyn drwy:
ymchwil
tystiolaeth
datrysiadau
hyfforddiant
partneriaethau
cydweithio
Strategaethau ar gyfer Diogelwch a Lles
Bydd ein rhaglen newydd Strategaethau ar gyfer Diogelwch a Lles, sy’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru, yn darparu cymorth ar gyfer iechyd meddwl a lles ym mhob ysgol a gynhelir yng Nghymru rhwng 2026 a 2029.
Bydd Strategaethau ar gyfer Diogelwch a Lles yn darparu mynediad cyffredinol at y profiadau, y wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen ar blant a phobl ifanc i fod yn feddyliol iach.
Bydd y rhaglen yn ein helpu i leihau’r bwlch mewn mynediad at wybodaeth drwy ddarparu a rhannu hyfforddiant, adnoddau a chymorth.