Skip to content

Strategaethau ar gyfer Diogelwch a Lles mewn Ysgolion Cynradd

Dysgwch am y strategaethau sy’n gweithio wrth addysgu am iechyd meddwl fel y canfuwyd yn hap-dreialon dan reolaeth ‘Addysg er Lles’.

English

Gwybodaeth am yr hyfforddiant hwn

Mae Strategaethau ar gyfer Diogelwch a Lles yn ddull sy’n seiliedig ar y cwricwlwm ac sy’n cynnwys hyfforddi athrawon i gyflwyno wyth gwers ar sut i ofalu am eich iechyd meddwl, gwybod pryd mae angen help gan eraill, a bod yn ymwybodol o rwydweithiau cymorth.

Mae’r hyfforddiant hwn hefyd ar gael i athrawon a staff mewn ysgolion uwchradd.

Pa fudd y gallwch ei gael o’r hyfforddiant hwn

Erbyn diwedd y sesiwn hyfforddi:

  • Bydd gennych chi ddealltwriaeth o ganfyddiadau’r treial ymchwil ac o’r effaith ar y disgyblion cynradd dan sylw.

  • Byddwch chi wedi archwilio effaith sgiliau sy’n seiliedig ar ddiogelwch fel ymyriad mewn ysgolion.

  • Bydd gennych chi ddealltwriaeth o sut i annog disgyblion blwyddyn 5 i gynyddu eu sgiliau o ran diogelwch, iechyd meddwl a lles, a sut i gael gafael ar ffynonellau cymorth priodol.

Sut mae’r rhaglen yn gweithio

Mae’r rhaglen yn cynnwys hyfforddiant i ymarferwyr, cymorth gweithredu, a chefnogaeth i arweinwyr ysgolion allu integreiddio’r rhaglen mewn dull ysgol gyfan.

Cyflwynir y cwrs hyfforddi hwn mewn un sesiwn bore neu brynhawn, a bydd yn cael ei ddarparu ar-lein yn bennaf, gyda rhai sesiynau wyneb yn wyneb.

Agenda

Modiwl un (1 awr) – Cyflwyniad i’r Rhaglen Strategaethau ar gyfer Diogelwch a Lles a’r ymchwil y tu ôl iddi.

Modiwl dau (1 awr) - Diogelwch mewn Ysgolion: Beth yw diogelwch, pam mae’n bwysig meddwl amdano, ffyrdd o gadw’n ddiogel, a sut rydym ni’n datblygu iaith gyffredin ynglŷn â diogelwch ac iechyd meddwl.

Egwyl (10 munud)

Modiwl tri (1 awr, 10 munud) - Cyflwyno: Adolygu cynlluniau gwersi, rhannu adnoddau a sut i oresgyn rhwystrau posibl.

Ar gyfer pwy mae’r hyfforddiant?

Mae tri neu bedwar ymarferydd o bob ysgol gynradd a gynhelir yng Nghymru yn gymwys i fynychu’r hyfforddiant.

Gwybodaeth am y cwrs:

  • rhad ac am ddim i gymryd rhan

  • addas ar gyfer athrawon a staff mewn ysgolion cynradd

  • ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg

  • nid yw’n addas ar gyfer staff sy’n gweithio yn y blynyddoedd cynnar, mewn chweched dosbarth neu mewn colegau yn unig.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y cyllid neu’r rhaglen, anfonwch e-bost at wellbeing.wales@annafreud.org.

Oes gennych ddiddordeb mewn comisiynu hyfforddiant ar gyfer eich ysgol neu goleg?

Rydym yn gweithio gydag ysgolion a lleoliadau addysgol i ddarparu fersiynau pwrpasol o'r hyfforddiant hwn. Cysylltwch â'n tîm arbenigol i drafod eich anghenion.

Gwneud ymholiad

Cylchlythyr Schools in Mind

Cofrestrwch i dderbyn cylchlythyr Schools in Mind er mwyn cael y newyddion diweddaraf, ymchwil, adnoddau, hyfforddiant a digwyddiadau sydd i ddod i'ch helpu i gefnogi eich dysgwyr.