Strategaethau ar gyfer Diogelwch a Lles mewn Ysgolion Uwchradd
Dysgwch am y strategaethau sy’n gweithio wrth addysgu am iechyd meddwl fel y canfuwyd yn hap-dreialon dan reolaeth ‘Addysg er Lles’.
Gwybodaeth am yr hyfforddiant hwn
Mae Strategaethau ar gyfer Diogelwch a Lles yn ddull sy’n seiliedig ar y cwricwlwm ac sy’n cynnwys hyfforddi athrawon i gyflwyno wyth gwers ar sut i ofalu am eich iechyd meddwl, gwybod pryd mae angen help gan eraill, a bod yn ymwybodol o rwydweithiau cymorth.
Mae’r hyfforddiant hwn hefyd ar gael i athrawon a staff mewn ysgolion cynradd.
Pa fudd y gallwch ei gael o’r hyfforddiant hwn
Erbyn diwedd y sesiwn hyfforddi:
bydd gennych chi ddealltwriaeth o ganfyddiadau’r treial ymchwil ac o’r effaith ar y disgyblion uwchradd dan sylw.
byddwch chi wedi archwilio effaith sgiliau sy’n seiliedig ar ddiogelwch fel ymyriad mewn ysgolion.
bydd gennych chi ddealltwriaeth o sut i annog disgyblion blwyddyn 7 i gynyddu eu sgiliau o ran diogelwch, iechyd meddwl a lles, a sut i gael gafael ar ffynonellau cymorth priodol.
Sut mae’r rhaglen yn gweithio
Mae’r rhaglen yn cynnwys hyfforddiant i ymarferwyr, cymorth gweithredu, a chefnogaeth i arweinwyr ysgolion allu integreiddio’r rhaglen mewn dull ysgol gyfan.
Cyflwynir y cwrs hyfforddi hwn mewn un sesiwn bore neu brynhawn, a bydd yn cael ei ddarparu ar-lein yn bennaf, gyda rhai sesiynau wyneb yn wyneb.
Agenda
Modiwl un (1 awr) – Cyflwyniad i’r Rhaglen Strategaethau ar gyfer Diogelwch a Lles a’r ymchwil y tu ôl iddi.
Modiwl dau (1 awr) - Diogelwch mewn Ysgolion: Beth yw diogelwch, pam mae’n bwysig meddwl amdano, ffyrdd o gadw’n ddiogel, a sut rydym ni’n datblygu iaith gyffredin ynglŷn â diogelwch ac iechyd meddwl.
Egwyl (10 munud)
Modiwl tri (1 awr, 10 munud) - Cyflwyno: Adolygu cynlluniau gwersi, rhannu adnoddau a sut i oresgyn rhwystrau posib.
Ar gyfer pwy mae’r hyfforddiant?
Mae tri neu bedwar ymarferydd o bob ysgol uwchradd a gynhelir yng Nghymru yn gymwys i fynychu’r hyfforddiant.
Gwybodaeth am y cwrs:
rhad ac am ddim i gymryd rhan
addas ar gyfer athrawon a staff mewn ysgolion uwchradd
ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg
nid yw’n addas ar gyfer staff sy’n gweithio yn y blynyddoedd cynnar, mewn chweched dosbarth neu mewn colegau yn unig.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y cyllid neu’r rhaglen, anfonwch e-bost at wellbeing.wales@annafreud.org.
-
Bydd manylion y lleoliad yn cael eu darparu ar wahân ar gyfer sesiynau wyneb yn wyneb.
Bydd sesiynau ar-lein yn cael eu cyflwyno dros Zoom, a byddwch chi'n cael dolen i ymuno â’r sesiwn cyn dyddiad yr hyfforddiant.
Sylwch y cewch eich gwahodd i rannu unrhyw ofynion hygyrchedd wrth gadw eich lle ar y cwrs hwn.
-
Mae’r sesiwn hanner diwrnod ar gael ar-lein ac wyneb yn wyneb yn rhad ac am ddim i bob ysgol a gynhelir yng Nghymru.
-
Rydym wedi ymrwymo i wneud ein hyfforddiant a’n digwyddiadau yn hygyrch ac yn gynhwysol i bawb sy’n cymryd rhan. Wrth gadw eich lle, gofynnir i chi rannu unrhyw ofynion ychwanegol neu addasiadau rhesymol y gallai fod eu hangen arnoch chi. Os byddai’n well gennych chi, gallwch hefyd gysylltu â ni’n uniongyrchol drwy anfon e-bost at training@annafreud.org.
-
Bydd Zoom yn cael ei ddefnyddio i gyflwyno’r sesiynau hyfforddi ar-lein. Cyn cadw eich lle, gwnewch yn siŵr eich bod yn bodloni gofynion y system er mwyn i chi allu ymuno â’r sesiwn hyfforddi hon.
Er mwyn profi eich cyfarpar, ewch i Zoom.us/test a dilynwch y cyfarwyddiadau.
-
Wrth gadw eich lle, gofynnir i chi gadarnhau eich bod wedi darllen a derbyn ein telerau ac amodau a’n hysbysiad preifatrwydd. Darllenwch y dogfennau hyn cyn cadw eich lle:
Oes gennych ddiddordeb mewn comisiynu hyfforddiant ar gyfer eich ysgol neu goleg?
Rydym yn gweithio gydag ysgolion a lleoliadau addysgol i ddarparu fersiynau pwrpasol o'r hyfforddiant hwn. Cysylltwch â'n tîm arbenigol i drafod eich anghenion.
Gwneud ymholiadCylchlythyr Schools in Mind
Cofrestrwch i dderbyn cylchlythyr Schools in Mind er mwyn cael y newyddion diweddaraf, ymchwil, adnoddau, hyfforddiant a digwyddiadau sydd i ddod i'ch helpu i gefnogi eich dysgwyr.
Efallai y bydd hyn o ddiddordeb i chi hefyd
-
Strategaethau ar gyfer Diogelwch a Lles mewn Ysgolion Cynradd
Dysgwch am y strategaethau sy’n gweithio wrth addysgu am iechyd meddwl fel y canfuwyd yn hap-dreialon dan reolaeth ‘Addysg er Lles’.
-
Strategaethau ar gyfer Diogelwch a Lles
Hyfforddiant am ddim i ddysgu sut i arfogi dysgwyr Cymraeg â gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth am iechyd meddwl, diogelwch a sut i gael gafael ar gymorth.

-
Gwerthusiad o Strategaethau ar gyfer Diogelwch a Lles
Mae Strategaethau ar gyfer Diogelwch a Lles , sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, yn darparu cymorth iechyd meddwl a lles ym mhob ysgol a gynhelir yng Nghymru. Mae’r rhaglen yn c...