Skip to content

Strategaethau ar gyfer Diogelwch a Lles

Hyfforddiant am ddim i ddysgu sut i arfogi dysgwyr Cymraeg â gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth am iechyd meddwl, diogelwch a sut i gael gafael ar gymorth.

English
A male teacher sitting next to two secondary school children pointing at a textbook, smiling.

Gwybodaeth am y rhaglen

Bydd Strategaethau ar gyfer Diogelwch a Lles, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, yn darparu cymorth iechyd meddwl a lles ym mhob ysgol a gynhelir yng Nghymru rhwng 2026 a 2029.

Mae’r rhaglen yn cynnwysdull iechyd meddwl sy’n seiliedig ar y cwricwlwm ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd. Prif nod y rhaglen yw darparu mynediad cyffredinol at brofiadau, gwybodaeth a sgiliau sydd eu hangen ar blant a phobl ifanc i fod yn feddyliol iach.

Rydym yn addasu’r rhaglen i’w defnyddio mewn ysgolion yng Nghymru ac i gefnogi’r ddarpariaeth ym Mlynyddoedd 5 a 7 ledled Cymru dros y dair blynedd. Mae hyn hefyd yn cynnwys cefnogaeth i arweinwyr ysgolion allu integreiddio’r rhaglen mewn dull ysgol-gyfan gyda chymorth gweithredu a chynaliadwyedd, gan gynnwys hyfforddwyr yng Nghymru. Gweler rhagor o wybodaeth am sut bydd y rhaglen yn cael ei gwerthuso.

Mae ymarferwyr wedi’u hyfforddi i gyflwyno wyth gwers i gynyddu sgiliau myfyrwyr o ran diogelwch, iechyd meddwl a lles, a sut i gael gafael ar ffynonellau cymorth priodol.

I gael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen hon, cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr Schools in Mind a dewiswch ‘Cymru’ fel eich rhanbarth chi.

Archebu hyfforddiant ysgol gynradd Archebu hyfforddiant ysgol uwchradd

Pam ymuno â’r rhaglen hon?

Mae data gan y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion* yn dangos bod gan tua 30% o ddysgwyr ysgolion cynradd a 35% o ddysgwyr ysgolion uwchradd yng Nghymru anawsterau emosiynol uwch neu glinigol arwyddocaol1, 2. Mae canfyddiadau ymchwil diweddar hefyd yn dangos y bu darlun cynyddol o broblemau iechyd meddwl yn ystod y ddau ddegawd diwethaf3.

Strategaethau ar gyfer Diogelwch a Lles oedd yr ymyriadau mwyaf addawol o nifer o ymyriadau iechyd meddwl ar gyfer ysgolion a dreialwyd drwy Addysg er Lles, sef hap-dreial dan reolaeth dan arweiniad Anna Freud ac UCL a oedd yn cynnwys dros 30,000 o fyfyrwyr mewn ysgolion ledled Lloegr. Canfuwyd bod y dull gweithredu yn gwella ymddygiad ceisio cymorth bwriadol ar gyfer anawsterau iechyd meddwl.

Mae Strategaethau ar gyfer Diogelwch a Lles wedi cael eu datblygu gan Anna Freud ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd ledled Cymru. Mae lleoedd wedi’u hariannu ar gael ar gyfer pob ysgol gynradd ac uwchradd a gynhelir yng Nghymru.

Nodau’r rhaglen

Y nod cyffredinol yw gwella sgiliau myfyrwyr o ran diogelwch, iechyd meddwl, lles a chael gafael ar ffynonellau cymorth.

Mae’r model hwn yn seiliedig ar egwyddorion y ‘Protective Behaviours approach’, ond mae’n canolbwyntio’n benodol ar iechyd meddwl, gan gynnwys:

integrity

Ymwybyddiaeth o ddiogelwch

Nodi beth sy’n teimlo’n ddiogel neu’n anniogel.

family icon

Rhwydweithiau cymorth

Nodi rhwydweithiau cymorth i ddysgwyr.

Asset 98

Rheoleiddio emosiynol

Adnabod, deall a rheoli teimladau.

asset 93

Strategaethau ymdopi

Nodi strategaethau ymdopi a cheisio cymorth ar gyfer dysgwyr.

compassion

Atal stigma

Atal stigma sy’n gysylltiedig â salwch meddwl.

Roisin McEvoy, Head of Training and National Programmes - Schools, headshot.

Beth sydd gan yr arbenigwyr i’w ddweud

Dywedodd Roisin McEvoy, Pennaeth Hyfforddiant Ysgolion a Rhaglenni Cenedlaethol Anna Freud:

"Rydym yn hynod falch y bydd pob ysgol a gynhelir ledled Cymru yn manteisio ar y rhaglen hon, sy’n seiliedig ar ymchwil ac wedi’i chynllunio i helpu i atal salwch meddwl. Amcangyfrifir bod gan tua 1 o bob 5 plentyn yng Nghymru gyflwr iechyd meddwl y gellir ei ddiagnosio, felly mae darparu cymorth cynnar mewn ysgolion yn bwysicach nag erioed.

"Mae’r dull hwn yn meithrin lles dysgwyr drwy normaleiddio emosiynau bob dydd, fel straen a thristwch, a’u helpu i ddatblygu strategaethau i reoli eu teimladau a chefnogi eraill. Mae hefyd yn dangos ble a sut i gael cymorth ychwanegol os oes angen. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda Llywodraeth Cymru dros y tair blynedd nesaf i gyflwyno’r rhaglen hon mewn ysgolion a chefnogi plant a phobl ifanc ledled y wlad i ffynnu.

Mae gan y rhaglen Strategaethau ar gyfer Diogelwch a Lles enw da am helpu dysgwyr i ddeall eu hiechyd meddwl eu hunain ac, yn hollbwysig, i wybod ble i droi pan fydd angen cymorth arnynt. Drwy sicrhau ei bod ar gael ym mhob ysgol, rydym ni’n cymryd cam go iawn ymlaen i roi’r sgiliau a’r hyder sydd eu hangen ar bob plentyn i ffynnu."

Strategaethau ar gyfer Diogelwch a Lles - Dyddiadau hyfforddiant i ddod

Oes gennych ddiddordeb mewn comisiynu hyfforddiant ar gyfer eich ysgol neu goleg?

Rydym yn gweithio gydag ysgolion a lleoliadau addysgol i ddarparu fersiynau pwrpasol o'r hyfforddiant hwn. Cysylltwch â'n tîm arbenigol i drafod eich anghenion.

Gwneud ymholiad

Ariannwyd gan:

Cylchlythyr Schools in Mind

Cofrestrwch i dderbyn cylchlythyr Schools in Mind er mwyn cael y newyddion diweddaraf, ymchwil, adnoddau, hyfforddiant a digwyddiadau sydd i ddod i'ch helpu i gefnogi eich dysgwyr.